Mudiad hunan-gymorth rhyngwladol yw Prifysgol y Drydedd Oes (P3O) i bobl sydd wedi ymddeol neu hanner-ymddeol. Mae’n darparu cyfleoedd addysgol, creadigol a hamdden mewn dysgu gydol oes. Mae llwyddiant pob P3O yn ddibynnol ar y modd y mae gallu , gwybodaeth a phrofiad yr aelodau yn cael ei rannu er budd eu cyd -aelodau. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ac nid oes rhai yn cael eu cynnig, felly 'does dim pwysau ar unrhyw aelod.


Mae P3O yn fudiad newydd o grwpiau yn ardal Edeyrnion a De Sir Ddinbych. Rydym yn cynnig nifer eang o weithgareddau ac o ddiddordebau. Gall y cyfarfodydd hyn fod yn gyfle i wneud cyfeillion newydd, rhannu diddordebau a datblygu sgiliau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Y tâl aelodaeth blynyddol yw £15. Mae hyn yn cynnwys y costau tadogaeth i’r Brif Swyddfa P3O ar gyfer yswiriant, gweinyddu ac yn y blaen. Mae’r gweddill yn dâl am logi’r neuadd, costau rhedeg etc. i’n grŵp. Mae ein blwyddyn aelodaeth yn dechrau ar Ebrill 1af a gall y tanysgrifiad blynyddol gael ei leihau ar gyfer aelodau sy’n ymuno hanner ffordd trwy’r flwyddyn.
Mae rhai o’n grwpiau diddordeb hefyd yn tanysgrifio i gostau lleoliad , ond mae’r mwyafrif yn cyfarfod yn nhai ei gilydd.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais oddi yma
Os hoffech ymuno ag unrhyw rai o’n grwpiau neu gychwyn grŵp newydd, gofynnir ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar y tab Contact
